Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR)

Mae’r SRN, a reolir gan Lywodraeth Cymru drwy Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA), yn cysylltu cymunedau, busnesau a chanolfannau economaidd allweddol ar draws y CCR. Er nad yw Awdurdodau Lleol yn rheoli nac yn cynnal yr SRN, rydym yn cydnabod ei rôl hanfodol mewn cysylltedd rhanbarthol a thwf economaidd.

Rhwydwaith Cynaliadwy, Cydnerth

Ein nod yw creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, cynaliadwy a chydnerth, gan gysylltu’r SRN yn effeithiol â ffyrdd lleol. Bydd hyn yn gwella symudiad pobl a nwyddau, gan gynorthwyo buddsoddiad busnes a darparu mynediad at swyddi, gwasanaethau a chyfleoedd. Mae cydlynu â Llywodraeth Cymru, SWTRA a chyfleustodau yn sicrhau gwaith cynnal a chadw effeithlon a gwella capasiti ffyrdd, gan helpu i leihau tagfeydd.

Blaenoriaethau Allweddol ar gyfer yr SRN

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP) yn amlinellu sawl maes allweddol ar gyfer buddsoddi a chydweithio:

  • Cysylltedd M4 a Lleihau Tagfeydd arni
    Cymorth ar gyfer mesurau i leddfu tagfeydd a lleihau dibyniaeth ar geir, gan gynnwys gwell trafnidiaeth gyhoeddus, gwell cyffyrdd, a llwybrau teithio llesol.
  • A465 Blaenau’r Cymoedd
    Gwella hygyrchedd a diogelwch ar hyd yr A465, gan gynorthwyo twf busnes a chysylltedd rhanbarthol.
  • A470 – Cysylltedd Gogledd-De
    Cymorth i’r ehangiadau parcio a theithio, a chludiant cyhoeddus gwell i leihau tagfeydd a gwella effeithlonrwydd teithio.

Gweithio Gyda’n Gilydd ar gyfer Rhwydwaith Gwell

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau trafnidiaeth i greu system drafnidiaeth ddi-dor a chynaliadwy, gan leihau tagfeydd a gwella hygyrchedd ar gyfer twf economaidd.