Helpu i Lunio Dyfodol Trafnidiaeth yn ein Hardal
Ymgynghoriad ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Croeso i ymgynghoriad cyhoeddus Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft, a elwir yn Trafnidiaeth ar gyfer CCR. Rydym yn ceisio eich mewnbwn i lunio dyfodol trafnidiaeth yn ein Rhanbarth. Mae eich adborth yn hanfodol i’n helpu i greu system drafnidiaeth sy’n helpu i wneud ein CCR yn Gystadleuol, yn Gysylltiedig ac yn Gydnerth.
Rhannwch eich barn cyn 19 Mai 2025.

Amdanom ni
Mae CCR yn gorff rhanbarthol (a elwir hefyd yn Gydbwyllgor Corfforaethol) sy’n cynnwys y 10 Awdurdod Lleol ar draws De-ddwyrain Cymru, ac mae wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus fel partneriaeth ers 2017.
Gellir canfod rhagor o wybodaeth am bwy ydym ni yma.
Mae ein buddsoddiadau a’n gweithgarwch ehangach eisoes wedi
- creu a diogelu 3,000+ o swyddi,
- cefnogi 200+ o fusnesau a
- buddsoddi £734m+ ym Metro De Cymru.
Ein gorchwyl yw gwella ansawdd bywyd i bobl leol trwy fuddsoddi mewn pobl, trafnidiaeth, busnesau, cartrefi a chymunedau. Gyda chyfrifoldebau newydd am drafnidiaeth, cynllunio a llesiant economaidd strategol, rydym ar fin cyflawni hyd yn oed mwy.
Ein Gweledigaeth
Mae CCR yn Rhanbarth bywiog ac amrywiol sydd wrth wraidd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd Cymru. Gyda phoblogaeth o tua 1.5m o bobl ac economi o £38.4bn, mae CCR yn cynrychioli tua hanner poblogaeth ac economi’r genedl.
Ein gweledigaeth yw sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithlon, fforddiadwy, carbon isel sy’n gwella ansawdd bywyd, yn meithrin ffyniant ar y cyd, ac yn cefnogi rhanbarth carbon niwtral, lle mae cerdded, beicio ac olwynion yn cael eu ffafrio ar gyfer teithiau byrrach a’r rhan fwyaf o gerbydau’n cael eu datgarboneiddio.
Drwy’r CTRh, rydym am gefnogi nodau strategol CCR a chreu rhanbarth sydd:

Yn gystadleuol: Yn rhoi hwb i’n heconomi ac yn creu swyddi

Wedi’i gysylltu: Cysylltu cymunedau, gwasanaethau, a busnesau, gan gynnwys trafnidiaeth rheilffordd, awyr a môr a

Yn gydnerth: Yn paratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy, sero net, gan fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn sicrhau mynediad teg i bawb
