
Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol
Mae’r RTDP yn amlinellu’r ymyriadau posibl a’r strategaethau ariannu sydd eu hangen i gyflawni amcanion y CTRh ac i helpu i gyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (WTS) ar lefel ranbarthol.
- Ymyriadau: Mae’r RTDP yn cynnwys rhestr o ymyriadau y bydd y CJC yn edrych i’w datblygu i gyflawni’r amcanion yn ein CTRh. Mae’r ymyriadau arfaethedig hyn yn canolbwyntio ar y pum mlynedd nesaf hyd at 2031, gyda rhai cynigion tymor hwy wedi’u cynnwys i sicrhau datblygiad a chyllid parhaus. Bydd y RTDP terfynol yn cynnwys gwybodaeth am brosiectau i gefnogi’r broses flaenoriaethu, a fydd yn asesu cyflawniad, fforddiadwyedd, a rheolaeth y rhaglen. Ar gyfer prosiectau yn y cyfnod cysyniad neu ddatblygiad cynnar, gwneir rhagdybiaethau ar sail prosiectau tebyg.
- Ariannu’r RTDP: Er mwyn cyflawni gweledigaeth a dyheadau hirdymor y CTRh bydd angen lefelau digynsail o fuddsoddiad, mewn cyfalaf ar gyfer asedau a refeniw ar gyfer costau cynnal a chadw a gweithredu. Yn hanesyddol, mae cynlluniau trafnidiaeth yng Nghymru wedi’u hariannu drwy grantiau LlC. Dros y pum mlynedd diwethaf, derbyniodd CCR £272.4 miliwn o arian cyfalaf LlC ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth. Fodd bynnag, mae’n afrealistig rhagdybio y bydd cyllid grant trafnidiaeth LlC yn cwmpasu pob cynllun RTDP. Bydd ffynonellau cyllid eraill yn cael eu ceisio i lenwi’r bwlch ariannu a chyflawni gweledigaeth ac amcanion y CTRh.
- Ffynonellau Ariannu Amgen: Mae’r CTRh yn archwilio amryw o ffynonellau ariannu amgen, gan gynnwys buddsoddiad sector preifat, cyfraniadau datblygwyr (S106), mesurau rheoli galw megis parthau aer glân ac ardollau parcio yn y gweithle, mecanweithiau cipio gwerth tir fel cyllid cynyddrannol treth, cronfeydd pensiwn, benthyca sector cyhoeddus, buddsoddwyr tramor, a banciau buddsoddi. Ceisir pob llwybr ariannu posibl. Mae parhau i chwilio am gyfleoedd ariannu sector cyhoeddus hefyd yn hanfodol.
- Cymorth Cyllid Refeniw: Mae sicrhau bod costau cynnal a chadw a gweithredu parhaus yn cael eu talu i gynnal seilwaith newydd a phresennol hefyd yn hanfodol. Gall cymhellion newid ymddygiad hefyd ddefnyddio llawer o adnoddau a bod yn gostus, felly mae’n hanfodol sicrhau bod cyllid ar lefel genedlaethol yn parhau i gael yr effaith fwyaf posibl.
Gallwch ddarllen ein RTDP llawn yma.
Nodyn Cyfarwyddyd ar gyfer y Cynllun Cyflawni
Rydym wedi mabwysiadu dull hyblyg o ddatblygu’r RTDP er mwyn caniatáu ar gyfer cynnwys cynlluniau ac ymyriadau newydd sy’n cyd-fynd ag amcanion y RTP. Mae hyn yn galluogi awdurdodau lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i fanteisio ar gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol a mynd ar drywydd atebion arloesol. Bydd y strategaeth hyblyg hon yn darparu rhaglen fwy gwydn ac effeithlon o gynlluniau.
Yn ystod camau cynnar datblygiad y RTDP daeth i’r amlwg bod nifer sylweddol o ymyriadau arfaethedig, yn enwedig wrth ystyried dyheadau’r deg awdurdod lleol ar gyfer cynlluniau peirianneg priffyrdd teithio llesol, bysiau a gwydnwch, digidol, a diogelwch ffyrdd. Mae gan gynlluniau o dan y categorïau hyn lawer o nodweddion cyffredin o ran costau tebygol a’r gallu i’w cyflawni. Am y rheswm hwn, mae’r ymyriadau hyn wedi’u cynnwys fel cynlluniau ‘rhanbarthol’ yn hytrach na’u rhestru’n unigol fesul awdurdod lleol penodol. Mae hyn wedi arwain at RTDP hollgynhwysol, ond hylaw a chryno.
Mae rhai cynlluniau teithio llesol ar raddfa fawr wedi’u cynnwys yn unigol yn y RTDP i gydnabod eu pwysigrwydd strategol ac mewn rhai achosion eu lefel uwch o ddatblygiad.