
Arfarniad Llesiant Integredig
Mae “Arfarniad Llesiant Integredig”, neu IWBA, yn ystyried sut mae cynlluniau a rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu noddi yn hyrwyddo lles ledled Cymru. Mae’r fethodoleg a’r canllawiau wedi’u nodi yng Nghanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), ac mae’r IWBA’s bellach wedi disodli’r Adroddiad Asesu Integredig a oedd yn bodoli’n flaenorol, gyda diweddariadau i’r canllawiau i gyd-fynd â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
O ran polisïau a chynlluniau sy’n canolbwyntio’n benodol ar Drafnidiaeth, mae’n rhaid i’r IWBA fynd i’r afael â phedwar cwestiwn allweddol, yn seiliedig ar y pedwar uchelgais yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru:
- Sut y bydd y rhaglen neu’r prosiect o fudd i bobl a chymunedau?
- Sut bydd o fudd i’r amgylchedd?
- Sut y bydd o fudd i leoedd a’r economi?
- Sut y bydd o fudd i ddiwylliant a’r iaith Gymraeg?
Mae’r dull trwyadl, strwythuredig hwn yn defnyddio mesurau “meintiol ac ansoddol” i’n helpu i ddeall yr effeithiau penodol y bydd ein CTRh drafft yn eu cael ar lesiant trigolion ar draws CCR.
Rydym wedi cynhyrchu IWBA ar gyfer ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft ar gyfer CCR.
Byddwch yn gallu archwilio’r IWBA gan ddefnyddio’r swyddogaethau isod, a deall sut y bydd ein cynllun yn effeithio arnoch yn fanylach